Rhif y Cam

Blaenoriaeth

Diweddariad

1

Datblygu a chynnal cofrestr risg o blâu a chlefydau a'u bygythiad i iechyd coed yng Nghymru.

 

·         Mae Gweinidogion Cymru yn gyfrifol am faterion iechyd coed yng Nghymru. Darperir y cyfrifoldeb hwn trwy drefniant tair ffordd rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru a’r Comisiwn Coedwigaeth a’i asiantaeth, Forest Research.

·         Mae Grŵp Llywio Iechyd Coed a Phlanhigion Cymru yn dod â’r Llywodraeth, Cyfoeth Naturiol Cymru, cynrychiolwyr o’r sector coedwigaeth a grwpiau amgylcheddol ynghyd i reoli’r ddarpariaeth o Strategaeth Iechyd Coed Cymru.

·         Mae’r Grŵp Gwyliadwriaeth Iechyd Coed a Phlanhigion Cymru sydd newydd gael ei ffurfio yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Forest Research a’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Mae’n monitro risgiau iechyd planhigion sy’n dod i’r amlwg ac yn gwneud gwaith cynllunio wrth gefn ar gyfer ymateb i achosion iechyd planhigion.

·         Mae'r Grŵp hefyd yn ymgymryd ag asesiad sganio'r gorwel ac asesiad risg plâu trwy gydweithrediad yr asiantaethau sy'n rhoi gwybod i'r rhestr flaenoriaeth am blâu posibl a bygythiadau o ran clefydau sy'n debygol o gyrraedd Cymru.

·         Caiff plâu coed a phlanhigion proffil uchel eu monitro a’u hadolygu gan y Grŵp Gwyliadwriaeth a chedwir rhestr wedi’i diweddaru i’w hadolygu gan y Grŵp Llywio.

·         Mae Cyswllt Ffermio yn gweithio gyda Forest Research i gynnig tri diwrnod “Iechyd Coed” i randdeiliaid gael eu briffio ar faterion iechyd coed a phlanhigion.

·         Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud gwaith gwyliadwriaeth rheolaidd ar organebau cwarantin a phlâu a chlefydau allweddol. Mae hyn yn cynnwys Phytophthora ramorum a chlefyd Chalara coed ynn. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn llunio adroddiad penodol i Gymru misol ar Phytophthora ramorum ac yn cynnal map penodol i Gymru yn dilyn lledaeniad Chalara.

·         Mae Gwywiad Coed Ynn (clefyd Chalara) - Ymateb Cymru (2016) ar gael ar dudalennau gwe iechyd coed Llywodraeth Cymru.

·         Mae Gwywiad Coed Ynn (clefyd Chalara) yn debygol o fod yn fwy amlwg ar draws Cymru eleni, yn enwedig mewn coed iau. Gallai effaith y clefyd mewn coed hŷn gymryd blynyddoedd lawer i ddangos. Mae lledaeniad y clefyd yn cael ei fonitro.

·         Mae Tîm Ymateb Gweithredol Chalara (CORT) yn cael ei gynnull gan Lywodraeth Cymru a bydd hwn yn cynrychioli amrywiaeth o randdeiliaid priodol i ddarparu arweiniad gweithredol a pholisi.

·         Bydd staff o Lywodraeth Cymru, CNC, Forest Research ac APHA yn bresennol yn Sioe Frenhinol Cymru 2017 i roi gwybodaeth ac arweiniad. Mae animeiddiad syml yn cael ei baratoi a bydd cyngor wedi ei argraffu i ymwelwyr.

·         Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi hybu ymwybyddiaeth o blâu allweddol trwy 2 seminar ar y cyd â Forest Research (lle’r oedd tua 100 o bobl yn bresennol).

·         Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth i grwpiau allanol fel yr ymddiriedolaethau bywyd gwyllt.

·         Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru ar nifer o grwpiau Prydain Fawr fel Grŵp Cofrestr Risg (Coedwigaeth) DEFRA a Grŵp Llywio Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.

2

Gweithredu'r rhaglen adfer Phytophthora ramorum.

 

·         Mae’r Strategaeth Rheoli Clefydau, a luniwyd o dan ambarél Strategaeth Iechyd Coed Cymru wedi sefydlu dau barth yng Nghymru: y parth clefyd craidd (yn y de yn bennaf) lle ceir lefelau uchel o haint mewn lleiniau llarwydd cyffiniol; a’r parth cyfyngu clefyd (gweddill Cymru) lle ceir haint ysgafn. Mae gwaith cwympo wedi ei dargedu at heintiau newydd yn y path cyfyngu clefyd i frwydro cyfradd lledaeniad yr haint.

·         Mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo Cyfoeth Naturiol Cymru i ailblannu ardaloedd o larwydd a gwympwyd ar ystâd goed Llywodraeth Cymru - yr arwynebedd a ailblannwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn ystod y chwe blynedd diwethaf (o ganlyniad i Phytophthora ramorum a chlirio ardal yn glir oedd wedi ei gynllunio) yw: 2011/12 986 hectar; 2012/13 1,012 hectar; 2013/14 1,350 hectar; 2014/15 1,107 hectar; 2015/16 1,237 hectar; a 2016/17 1222 hectar ).

·         Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r gwaith o ailstocio llarwydd heintus mewn coetiroedd preifat trwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymunedau Gwledig a Chynllun Adfer Coetir Glastir.

·         Er bod P ramorum yn drychineb i larwydd yng Nghymru, mae ailstocio ardaloedd a gwympwyd yn caniatáu i fwy o wydnwch ecolegol gael ei ddatblygu yng nghoetir Cymru gan sicrhau y gall yr adnodd naturiol gynnig amrywiaeth o wasanaethau ecosystem o addasu i’r newid yn yr hinsawdd i gynhyrchu pren i fynediad a hamdden er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

·         Yn ei swyddogaeth fel corff darparu iechyd coed tir Cymru, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud gwaith gwyliadwraeth rheolaidd ar gyfer organebau cwarantin a phlâu a chlefydau allweddol, gan gynnwys Phytophthora ramorum. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn llunio adroddiad penodol i Gymru misol ar Phytophthora ramorum.

·         Mae tystiolaeth o'r arolwg o'r awyr mwyaf diweddar o larwydd yn awgrymu bod achosion cynyddol o Phytophthora ramorum o'i gymharu â'r ddwy flynedd ddiwethaf. Os yw'r canfyddiad rhagarweiniol hwn yn cael ei gadarnhau gan ddadansoddiad labordy, mae nifer yr achosion newydd bron yn sicr o ganlyniad i amodau tywydd y gaeaf sydd wedi ffafrio’r organeb.

·         Bydd Tîm Ymateb Gweithredol Phytophthora Llywodraeth Cymru (PORT) yn cael ei ailgynnull ym mis Mehefin i asesu'r dystiolaeth arsylwadol a gwyddonol ddiweddaraf er mwyn argymell dull o weithredu i gyfyngu ar ledaeniad pellach y clefyd hwn yng Nghymru. Bydd y PORT yn ymateb yn uniongyrchol i Grŵp Llywio Iechyd Coed a Phlanhigion Cymru.

·         Mae canllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu datblygu ar gyfer staff lleol i’w helpu i flaenoriaethu safleoedd ar gyfer ailstocio, gyda’r nod deuol o leihau costau ailstocio a chynnal mewnbwn i safleoedd cynhyrchiol yn y dyfodol.

·         Ymgyrch ymwybyddiaeth cyfryngol bioddiogelwch “Cadwch yn Lân” a gynhaliwyd gan dîm Iechyd Planhigion Cyfoeth Naturiol Cymru.

·         Mae Llywodraeth Cymru, drwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymunedau Gwledig, yn darparu cyllid drwy gynllun Adfer Coetiroedd Glastir i gefnogi adfer coetiroedd llarwydd yr effeithir arnynt gan Phytophthora ramorum.

3

Defnyddio'r fframwaith statudol a pholisi yng Nghymru i gyflawni’r gwaith o greu coetiroedd wrth wneud y gorau o'r buddion a ddarperir gan goedwigaeth, coetir a choed.

 

·         Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn darparu’r fframwaith y gellir ei ddefnyddio i gydnabod cyfraniad ehangach coedwigoedd, coetiroedd a choed.

·         Mae'r Ddeddf yn sefydlu targed i leihau allyriadau o leiaf o 80% erbyn 2050 a chyfres o dargedau interim a chyllidebau carbon.  Mae'r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sefydlu Cynllun Cyflawni erbyn mis Mawrth 2019 i gwrdd â'n cyllideb garbon gyntaf. Bydd creu coetiroedd nid yn unig yn darparu cyfleoedd i storio carbon, ond hefyd fuddion hirdymor ehangach.

·         Bu cynnydd anghyson tuag at y nod o greu mwy o goetir yng Nghymru. Cafodd dros 141 hectar o goetir newydd ei greu yn ystod y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2016. Y ffigurau dangosol ar gyfer y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2017 yw dros 390 hectar o blannu newydd a dros 1,400 hectar o ailstocio ac adfywio naturiol.     Mae plannu coetir newydd ac ailstocio yn parhau i gael eu cefnogi drwy gynlluniau Coetiroedd Glastir o dan Gynllun Datblygu Gwledig Cymunedau Gwledig.

·         Mae tîm Coetiroedd Glastir Cyfoeth Naturiol Cymru yn dilysu ceisiadau i gynllun Creu Coetir Glastir yn erbyn Safon Coedwigaeth y DU, rheolai Creu Coetir Glastir a meini prawf gwerth am arian. Yn 2016, fe wnaethant ddilysu 134 o gynlluniau Cynllun Coetiroedd Glastir sy’n cyfateb i 852.9ha o blannu newydd posibl.  Mae canllawiau i gefnogi cynllun Coetiroedd Glastir ar wefan CNC.

·         Cydweithredu yw’r ffordd orau o hwyluso gwaith creu coetir. Lansiodd Llywodraeth Cymru y Cynllun Cynllunio Coedwigoedd Cydweithredol gyda dyraniad dechreuol o £180,000 i annog a hwyluso cydweithrediad ar gyfer creu a rheoli coetir. Maent wedi derbyn 2 Ddatganiad o Ddiddordeb sydd yn y broses o gael eu hasesu, a byddant yn lansio ail rownd y cynllun yn yr Hydref gyda £300,000 pellach ar gael. Mae CNC yn cefnogi Llywodraeth Cymru gyda'r cynllun hwn.

·         Mae’r Prosiect “Carbon Bositif” yn gwerthuso statws carbon net Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gymryd allyriadau nwyon tŷ gwydr a dal a storio carbon ar draws holl ystad sy’n eiddo i Gyfoeth Naturiol Cymru neu a reolir ganddo. Mae’n nodi cyfleoedd lliniaru i leihau effaith carbon Cyfoeth Naturiol Cymru fel sefydliad a darparu prosiectau i ddangos y mesurau hyn. Mae cynefinoedd coetir a mawndir yn oddeutu 84% o ystad goed Llywodraeth Cymru, ac yn gwneud cyfraniadau sylweddol at statws carbon yr ystad. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda Forest Research a’r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg i fodelu eu stoc carbon a’u prosesau dal a storio carbon yn well, a fydd yn helpu Cyfoeth Naturiol Cymru i gynllunio sut orau i’w rheoli i ddiogelu stociau carbon presennol a gwella prosesau dal a storio e.e. trwy ehangu coetir.

·         Yn yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (Medi 2016), nodwyd “Cynyddu’r gorchudd gan goetiroedd, a dod â mwy o’n coetiroedd presennol dan reolaeth addas” gan Gyfoeth Naturiol Cymru fel un o’r saith cyfle allweddol i ymdrin â’r heriau a’r risgiau a nodwyd, a chyfrannu at y nodau llesiant. Fodd bynnag, mae pump o’r saith cyfle yn yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol yn berthnasol i benderfyniadau rheoli tir ehangach, ac mae coetiroedd / coed yn chwarae rhan yn narparu’r rhain. Gan adeiladu ar adroddiad SoNaRR 2016, mae CNC yn gweithio ar  ddadansoddiad gofodol gwell i fod yn sail i ddatblygu polisi a gwneud penderfyniadau ar ddefnyddio tir a rheoli tir gan gynnwys nodi 'mannau cyfle' ar gyfer creu coetiroedd newydd i gefnogi darpariaeth polisi Llywodraeth Cymru.

·         Mae ymgysylltu â rhanddeiliaid coedwigaeth wedi digwydd i geisio barn ar gyfleoedd a heriau i reoli coedwigaeth a choetiroedd sy'n deillio o ymadael â’r UE, gan gynnwys mewn perthynas â chreu coetiroedd.

·         Mae Cyswllt Ffermio wedi recriwtio swyddog coedwigaeth technegol i hyrwyddo'r cymorth sydd ar gael drwy'r mecanwaith hwn i'r sector coedwigaeth. Mae'r cymorth yn cynnwys cyngor i unigolion a grwpiau, digwyddiadau arddangos, hyfforddiant a bwletinau newyddion technegol.

4

Rheoli plannu coetiroedd a rhaglenni cynaeafu ar hyn o bryd ac yn y dyfodol i sicrhau bod cynhyrchu pren yn parhau yn y tymor hir.

 

·         Yn dilyn ymgynghoriad gyda’r sector, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi Cynllun Marchnata Pren yn Ionawr 2017 ar gyfer y cyfnod 2017-22 sy’n esbonio ei ddull o gynaeafu a marchnata pren o ystad goetir Llywodraeth Cymru. Mae’n rhaid i Gyfoeth Naturiol Cymru lunio’r Cynllun hwn er mwyn helpu i gynnal eu hardystiad i Safon Sicrwydd Coetir y DU ac i sicrhau ei fod yn cyflawni yn erbyn yr amcanion polisi perthnasol a nodir yn Coetiroedd i Gymru.

·         Cyflwynodd Cyfoeth Naturiol Cymru bapur trafod ar “Argaeledd pren yn y dyfodol - goblygiadau i’r sector coedwigoedd ac adnoddau coetir yng Nghymru” i’w ystyried gan y Panel Ymgynghorol y Strategaeth Goetiroedd (WASP) yn ei gyfarfod ar 7 Tachwedd 2016. Rhoddodd y papur trafod hwn sylw i amrywiaeth o faterion gan gynnwys: rhagolygon am argaeledd a galw am ffibr pren yng Nghymru yn y dyfodol; rheolaeth bresennol ystad goed Llywodraeth Cymru (lefelau ailstocio, cyfraddau cynaeafu a marchnata, systemau rheoli coedamaeth); rheolaeth bresennol o goetir mewn perchnogaeth arall; a ffactorau yn effeithio ar arwynebedd coetir (creu coetir, cael gwared ar goetir yn barhaol a defnyddiau tir sy’n cystadlu), o safbwynt polisi, rheoleiddio a rheoli. Ar gais Panel Ymgynghorol y Strategaeth Coetiroedd (WASP), mae CNC bellach yn arwain Grŵp Gorchwyl a Gorffen sy’n edrych ar gamau gweithredu ymarferol sy'n gysylltiedig ag argaeledd pren yn y dyfodol, a fydd yn adrodd i'w Grŵp Busnes Sector Coedwigaeth.

·         Mewn ymateb i ymchwiliad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r ystad goed gyhoeddus yng Nghymru yn 2014, lluniodd Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr sector gynllun ’10 Maes ar gyfer Gweithredu’ er mwyn gwella cefnogaeth i’r sector coedwigaeth preifat a chyfathrebu ag ef.

·         Cyhoeddwyd y 10 Maes ar gyfer Gweithredu ym mis Rhagfyr 2014 gyntaf, ac yna fe’i diweddarwyd ym mis Rhagfyr 2015. Bydd diweddariad 2016 yn cael ei gyhoeddi ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn fuan. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gweithio gyda ConFor i adolygu’r ddogfen i sicrhau bod llwyddiannau’n cael eu cydnabod a bod camau’n parhau i fod yn berthnasol ac yn gyfredol.

·         Cyhoeddodd CNC ym mis Mawrth 2017 dri Canllaw Arferion Da ynghylch Cadernid Coedwigoedd am  amrywiaeth strwythurol, amrywiaeth rhywogaethau coed  ac amrywiaeth genetig i’w defnyddio gan bob rheolwr coedwig a choetir yng Nghymru. Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu i staff CNC ar sut i weithredu'r Canllawiau mewn perthynas â rheoli ystad goetir Llywodraeth Cymru.

·         Mae plannu cydbwyso yn un o amcanion allweddol Rhaglen Cyflawni Ynni Cyfoeth Naturiol Cymru i ddiogelu ystad goed Llywodraeth Cymru o ran cael gwared ar goetir a datblygiadau ynni. Ceir cronfa sydd wedi’i neilltuo sy’n £500,000 ar hyn o bryd ac a fydd yn cynyddu’n flynyddol, i ddigolledu colled coetir sy’n digwydd ar yr Ystad oherwydd datblygiadau ynni.

·         Fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru recriwtio Ymgynghorydd Creu Coetiroedd â chylch gwaith i reoli’r gronfa hon ac i ddarparu plannu cydbwyso ar gyfer y rhaglen hon.

·         Fe wnaeth CNC recriwtio Cynghorydd Creu Coetir ym mis Mawrth 2017 gyda  chylch gwaith i reoli'r gronfa hon, a chyflwyno plannu er mwyn cydbwyso ar gyfer y rhaglen hon.

·         Ymatebodd CNC i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y cyd gan y DU a'r Llywodraethau Datganoledig ar asesu effaith amgylcheddol a throsi Cyfarwyddeb 2014/52 / UE.  Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys rheoliadau’r Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol ar goedwigaeth. Cefnogodd CNC y cynigion lle roeddent yn cymryd ymagwedd oedd yn fwy galluogol wrth ddiogelu'r amgylchedd a gwnaeth nifer o argymhellion ar gyfer gwella prosesau yn unol â’u rhaglen  Rheoleiddio yn y Dyfodol. Bydd Rheoliadau’r Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (Coedwigaeth) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2017 yn dod i rym ar 17 Mai. Rydym yn y broses o ddiweddaru ein gwefan i adlewyrchu'r newidiadau.

·         Mae CNC yn datblygu templed o gynllun rheoli coetir cynaliadwy 10 mlynedd i'w ddefnyddio gan y sector coedwigaeth. Gallai 80% o hyn gael ei gyllido drwy Gyswllt Ffermio hyd at uchafswm o 1500 Ewro ar gyfer busnesau cymwys. Bydd hyn yn annog cynllunio rheolaeth tymor hwy yn y sector preifat.

5

Darparu mwy o goed a'u diogelu mewn trefi a dinasoedd a chymorth ar gyfer rheoli coed trefol yn gynaliadwy.

 

·         Cyflwynodd astudiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ‘Gorchudd Coed yn Nhrefi a Dinasoedd Cymru’ arolwg gwlad gyfan cyntaf y byd o orchudd canopi coed trefol. Yn 2016, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, diweddarwyd yr adroddiad gan Gyfoeth Naturiol Cymru gan ddefnyddio ffotograffau o’r awyr diweddar i gwblhau dadansoddiad o ddelweddau o 2006, 2009 a 2013 ar gyfer 220 o ardaloedd trefol.

·         Mapiodd yr asesiad pob coeden a choedwig ym mhob un o 220 o ardaloedd trefol Cymru. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio’r arolwg hwn wrth weithio gydag eraill i gyfrannu negeseuon Seilwaith Gwyrdd pwysig at gynlluniau, polisïau a strategaethau ac i hysbysu datblygiad cynlluniau llesiant.

·         Amcangyfrifwyd mai 16.3% oedd cymedr canopi coed trefol Cymru yn 2013, sy’n ganolig o’i gymharu â threfi a dinasoedd eraill ledled y byd.  

·         Cwblhawyd tair Astudiaeth iTree Eco yng Nghymru. Dull ar gyfer mesur swyddogaethau coed trefnol o ran gwella ansawdd aer, gostwng carbon deuocsid a rheoli llifogydd yw iTree Eco. Trwy asesu gwerthoedd pob swyddogaeth, mae’r fethodoleg yn cynnig sail gadarn ar gyfer rheoli poblogaethau coed trefol a’r buddion y maent yn eu darparu.

·         Mae tystiolaeth am orchudd coed mewn trefi a dinasoedd a’r manteision y gall coed eu cynnig yn adnodd ar gyfer Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus o ran bwrw ymlaen â’u cynlluniau llesiant lleol.

·         Mae methodoleg iTree yn cynnig ffordd o werthuso atebion seiliedig ar natur priodol ar gyfer materion ansawdd aer a llifogydd. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol yn cynnwys cyfeiriad at iTree Eco fel enghraifft i’w gynnwys mewn cynigion refeniw amgylcheddol ar gyfer 2017/18.  

·      Mae arfer rheoli coed trefol ar lawr gwlad yn hanfodol i’w cynaliadwyedd a darpariaeth o fuddion lluosog. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cefnogi a chyfrannu at arwain canllawiau arfer da technegol ar gyfer coed trefol. Mae’r 2 gyhoeddiad diweddar a luniwyd gan y Grŵp Gweithredu Coed a Dylunio, “Trees in the Townscape” a “Trees in Hard Landscapes” yn troi’n feincnod, gan eu bod newydd ennill Gwobr 2016 y Sefydliad Tirwedd ar gyfer Polisi ac Ymchwil. Maent mewn trafodaethau ar hyn o bryd ynghylch cyhoeddiad pellach yn y gyfres hon, “Trees in Development and Planning”.

·      Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynnig cymorth a chyngor i Gyngor Sir Caerdydd a Dŵr Cymru ar addasrwydd coed ar gyfer prosiect arloesol Greener Grangetown sy’n ôl-osod seilwaith gwyrdd ar strydoedd Fictoraidd i leihau glawiad sy’n mynd i mewn i garthffosydd lleol.

 

6

Archwilio'r materion sy'n gysylltiedig â galluogi a meithrin gallu grwpiau a mentrau cymunedol i gymryd rhan mewn rheoli coetiroedd, er mwyn eu helpu i ddefnyddio coetiroedd i wireddu amcanion llesiant.

·         Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Llais y Goedwig, rhwydwaith cenedlaethol o grwpiau coetir cymunedol, yn uniongyrchol. O ganlyniad, penodwyd dau swyddog adeiladu capasiti gan Lais y Goedwig yn 2016 i froceru cytundebau newydd rhwng grwpiau coetir cymunedol a pherchnogion coetir. Mae’r swyddogion yn cynnig cyngor a chanllawiau i berchnogion coetir cyhoeddus a phreifat ac i grwpiau cymunedol er mwyn sefydlu cytundebau ar gyfer gweithgareddau a all gynnwys rheoli coetir, cadwraeth, mynediad gwell a gweithgareddau i wella iechyd corfforol a meddyliol. 

·         Mae Llais y Goedwig wedi hwyluso gweithdai gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ar fanteision galluogi grwpiau coetir cymunedol i reoli gweithgarwch safleoedd addas ar ystad goed Llywodraeth Cymru, yn enwedig safleoedd nad yw’n economaidd hyfyw eu rheoli’n ddwys ar gyfer pren ond sy’n cynnig lleoliad ar gyfer cyfranogiad cymunedol a buddion llesiant a chydlyniant cymdeithasol cysylltiedig. 

·         Mae’r ystadegau ar gyfer grwpiau coetir cymunedol a oedd yn aelodau o Lais y Goedwig ar gyfer 2016 yn dangos bod 78 o grwpiau cymunedol coetir gweithredol yn ymwneud â rheoli tua 1,850 hectar o goetir. Mae llythyr cylch gwaith CNC am 2017/18 yn disgrifio cam gweithredu i 'nodi cyfleoedd i gefnogi datblygiad cymunedol a menter drwy wirfoddoli a chefnogaeth barhaus ar gyfer y rhaglen ‘Lift’ a pharhau i gefnogi prosiectau ynni cymunedol a choedwigoedd cymunedol ar Ystad Coetir Llywodraeth Cymru, lle y bo'n briodol.'

·         Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wrthi’n adolygu’r broses a’r systemau a ddefnyddiwyd i gyflwyno caniatâd ar gyfer gweithgareddau ar ystad goetir Llywodraeth Cymru.

·         Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal adolygiad datganiad sefyllfa o’r holl weithgareddau hamdden a mynediad ar dir a reolir gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r datganiadau sefyllfa yn destun ymgynghoriad mewnol ac allanol a bydd drafftiau o'r saith cyntaf yn y gyfres (mae tua 60 i gyd) yn mynd allan i ymgynghoriad ar ôl Mehefin 8fed 2017. Mae'r ymgynghoriad allanol yn 'gaeedig' o ran bod CNC yn bwriadu targedu sefydliadau sy'n cynrychioli grwpiau defnyddwyr yng Nghymru, fel y rhai a gynrychiolir ar Fforwm Mynediad Cenedlaethol Cymru.

·         Mae Cynllun Marchnata Pren Cyfoeth Naturiol Cymru (2017-22) yn cynnig mwy o gyfle i gymunedau ddefnyddio pren.

7

Hyrwyddo'r defnydd o bren o Gymru, gan gynnwys fel deunydd hanfodol ar gyfer adeiladu cynaliadwy ac yn ganolog i ddarparu tai newydd.

 

·         Ym mis Mawrth 2016, trefnodd Llywodraeth Cymru (gyda Wood Knowledge Wales) gynhadledd o’r enw ‘Wood Build Wales’ a chafwyd presenoldeb da o blith cynrychiolwyr o bob rhan o’r sector pren a choedwigaeth. Yn ystod haf 2017 mae Woodknowledge Wales wedi mynd ymlaen i gynnal cynhadledd a gweithdai pellach gyda chynrychiolwyr o’r sectorau pren a thai i archwilio sut i hyrwyddo'r defnydd o bren mewn adeiladu ymhellach. 

·         Mae Cronfa Tai Arloesol £20 miliwn Llywodraeth Cymru i helpu i gyflenwi 1,000 o'r 20,000 o’r targed o dai fforddiadwy newydd yn ystod tymor y Cynulliad hwn yn rhoi cyfle i bartneriaid gydweithio ac arloesi o ran deunyddiau a dulliau adeiladu, gan gynnwys y defnydd pellach o bren mewn adeiladu. Mae problemau technegol ynghylch ansawdd y pren sy’n cael ei dyfu gartref ar gyfer adeiladu wedi cael eu goresgyn i raddau helaeth, a bydd y defnydd cynyddol o bren yn helpu i ddatblygu'r gadwyn gyflenwi ddomestig i gwrdd â gofynion y sector adeiladu am gyflenwad cynaliadwy o ddeunydd crai. 

·         Mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar ffyrdd i hyrwyddo arloesedd a gwerth ychwanegol ar draws y gadwyn cyflenwi pren.

·         Mae Cynllun Marchnata Pren Cyfoeth Naturiol Cymru (2017-22) yn cynnwys ymrwymiad i fabwysiadu “hierarchaeth garbon” o ddefnydd fel ffordd o gymharu cyfraniad gwahanol gynhyrchion pren at leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn ein deunydd marchnata. Mae hyn yn golygu, o ran gwerthiannau ochr ffordd, y byddant yn parhau i werthu a graddio cynhyrchion fel eu bod yn addas ar gyfer gwahanol farchnadoedd ac yn annog cymaint â phosibl o werth ychwanegol yn y gadwyn gyflenwi e.e. sicrhau bod cymaint â phosibl o bren ar gael i’w ddefnyddio ar gyfer adeiladu.

·         Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cwblhau rhaglen arloesiadau (gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru) gyda dau gwmni yng Nghymru i ddatblygu cynhyrchion newydd sy’n cynyddu hirhoedledd pyst ffens pren.

·         Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwrw ymlaen â rhaglen arloesiadau (gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru) gyda chwmni yng Nghymru i ddatblygu cynnyrch bio-olosg sy’n cynorthwyo adfywiad rhywogaethau brodorol i briddoedd lle’r oedd rhododendron yn bresennol gynt. Mae canlyniadau wedi bod yn gadarnhaol lle mae dulliau traddodiadol wedi methu.

8

Datblygu modelau ar gyfer mentrau sy'n gysylltiedig â choetiroedd a darparu cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth, addysg a hyfforddiant ar draws y sector coedwigaeth

drwy ddatblygu sgiliau perthnasol yn y sector a darparu

profiad gwaith fel llwybrau i gyflogaeth.

 

·         Datblygwyd y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Pren i gefnogi buddsoddiad i ddod â choetir o dan reolaeth. Gwnaeth cylch 1 y Cynllun, a oedd ar agor i ddatganiadau o ddiddordeb ym mis Mai 2016, £2 filiwn ar gael gan ddenu 49 o geisiadau, y mae 21 ohonynt wedi mynd yn eu blaenau i’r cam asesu manwl. 

·         Agorodd cylch 2 ym mis Chwefror 2017 gyda chyllideb bellach o £2 filiwn. Mae'r Cylch hwn bellach wedi cau a derbyniwyd cyfanswm o 46 o ddatganiadau o ddiddordeb sy'n cael eu hasesu ar hyn o bryd.

·         Mae £4 miliwn pellach wedi cael ei ddyrannu i gynnal cylchoedd pellach o'r Cynllun.

·         Rydym yn disgwyl i’r galw am gynhyrchion coetir sy’n cael ei greu gan y Cynllun hwn arwain at ardaloedd coetir newydd yn dod o dan reolaeth i ddarparu’r buddion a nodir yn strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer coetiroedd a choed. 

·         Sefydlwyd ‘Cyfle’ fel cynllun cenedlaethol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer recriwtio, cydgysylltu, cefnogi a rheoli lleoliadau profiad gwaith (gan gynnwys y rheini ar raglen “Esgyn” Llywodraeth Cymru), gwirfoddolwyr, lleoliadau israddedigion ac ôl-raddedigion a phrentisiaethau. Mae’n adeiladu ar gynlluniau cyrff etifeddol i gynnig un pwynt mynediad, sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac yn hawdd cael mynediad ato i bobl â diddordeb mewn treulio amser yn gweithio ac yn dysgu ochr yn ochr â staff Cyfoeth Naturiol Cymru mewn amrywiaeth o leoliadau – gyda chyfleoedd i wneud cynnydd lle’n bosibl.

·         Yn rhan o Gynllun Lleoliadau Cyfle, roedd gan Gyfoeth Naturiol Cymru 4 o brentisiaid Coed a Phren. Mae un wedi symud allan o'r sefydliad, mae dau wedi llwyddo i sicrhau swyddi parhaol o fewn CNC. Mae'r ddau hyn a'r prentis sydd ar ôl yn symud ymlaen gyda'u cymhwyster.

 

9

Archwilio digonolrwydd mesurau a gweithdrefnau presennol ar gyfer diogelu coed gwerthfawr a'r cyfle i'w gwella, yn enwedig coed hynafol, coed hynod a choed

treftadaeth.

 

·         Mae'r fframwaith a roddwyd ar waith yn awr gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn darparu'r modd i gynllunio'r defnydd o adnoddau naturiol Cymru, gan gynnwys coed, yn fwy rhagweithiol, cynaliadwy a chydgysylltiedig.  Bydd y fframwaith newydd, trwy SoNaRR a'r Polisi Adnoddau Naturiol yn darparu data a thystiolaeth i lywio'r gwaith o reoli coed gwerthfawr a'r amddiffyniadau a roddir iddynt. 

·         Mae dadansoddiad strategol o safleoedd Planhigfeydd ar Safleoedd Coetiroedd Hynafol sydd dan fygythiad wedi cael ei gynnal gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar ystad goetir Llywodraeth Cymru a datblygwyd methodoleg blaenoriaethu diwygiedig sy'n cefnogi’r canfyddiadau Adolygiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen Panel Ymgynghorol y Strategaeth Coetiroedd (WSAP) o bolisi adfer Coetir - Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol (PAWS) yng Nghymru (gweler Cam Gweithredu 10).

·         Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i gynnal y Rhestr Coetiroedd Hynafol, gan asesu tystiolaeth newydd a ddarperir gan berchnogion a rheolwyr ac adolygu’r Rhestr yn ôl yr angen yng ngoleuni’r dystiolaeth hon. Mae’r wybodaeth hon ar gael yn gyhoeddus ar borth Lle.

·         Rhwng 2012 ac 2019, bydd llywodraeth y DU wedi buddsoddi cyfanswm o fwy na £37m i mewn i waith ymchwil ar iechyd coed a bioddiogelwch planhigion.   Mae hyn yn cynnwys tystiolaeth am blâu a chlefydau penodol fel Gwywiad Coed Ynn, yn ogystal ag ymchwil trawsbynciol gyda'r nod o wella gwydnwch ein coed a'n gallu i atal, modelu, canfod a rheoli bygythiadau. 

·         Yn 2014, cyhoeddodd y Comisiwn Coedwigaeth ei 'Strategaeth Wyddoniaeth ac Arloesi ar gyfer Coedwigaeth ym Mhrydain’ hefyd, sy'n gosod y fframwaith ar gyfer ymchwil coedwigaeth dros y 4-5 mlynedd nesaf ac sy’n bwriadu darparu’r polisi ac anghenion tystiolaeth weithredol y llywodraeth a rhanddeiliaid eraill.

 

10

Parhau i ddod â safleoedd arbennig a nodwyd, Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol (“PAWS”), coetiroedd brodorol a chynefinoedd â blaenoriaeth o dan reolaeth ffafriol ar ystad goed Llywodraeth Cymru ac

annog tirfeddianwyr preifat i wneud hynny.

 

·         Cynhaliwyd adolygiad o bolisi adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Coetiroedd Hynafol Llywodraeth Cymru gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen o gynrychiolwyr o’r Panel Cynghori ar y Strategaeth Goetiroedd sy’n cynghori Llywodraeth Cymru ar bolisi coedwigaeth.

·         Canfu’r adolygiad er nad oedd angen newid polisi adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Coetiroedd Hynafol presennol, roedd angen bod yn fwy hyblyg o ran y dull o adfer. Roedd angen hyn i annog gwaith adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Coetiroedd Hynafol, yn enwedig yn y sector preifat. Er y cydnabuwyd bod angen lefel o waith adfer a diogelu ar yr holl Blanhigfeydd ar Safleoedd Coetiroedd Hynafol, byddai dull hyblyg yn helpu i ganolbwyntio adnoddau prin ar safleoedd lle mae adfer yn fwy tebygol o fod yn llwyddiannus gan sicrhau’r buddion mwyaf posibl.

·         Cymeradwywyd yr argymhellion gan y Panel Cynghori ar y Strategaeth Goetiroedd a dyma ddull Llywodraeth Cymru o adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Coetiroedd Hynafol erbyn hyn.

·         Mae canllawiau arfer gorau ar adfer Coetir - Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol (PAWS) wedi cael ei ddatblygu ac mae wedi'i gynnwys yn rheolau cynllun cylch nesaf Glastir - Adfer Coetir (GWR).  Mae cymorth ychwanegol yn cael ei gyflwyno fel rhan o Glastir - Adfer Coetir ar gyfer cynhyrchu cynllun rheoli coedwigoedd i adfer Coetir - Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol  lle mae llarwydd a hyd at 50% o goed nad ydynt yn llarwydd. Mae hyn yn cydnabod y costau ychwanegol o sicrhau y nodir y dull rheoli mwyaf priodol ar gyfer pob un o’r Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol  yn unol â'r canllawiau.

·         Cafodd argymhellion yr adolygiad eu cymhwyso gan CNC at Coetir - Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol ar ystad goed Llywodraeth Cymru a byddant yn hysbysu mecanweithiau cymorth grant sydd ar fin cael eu cyflwyno.

·         Adfer cynefinoedd mawndir – mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal rhaglen o waredu coed o safleoedd mawndir dwfn wedi’u coedwigol lle ceir budd eglur i’r ecosystem a’i bod yn briodol ac yn ymarferol gwneud hynny.

·         Mae arolygon monitro Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu cynnal i ddarparu data ar gyflwr yr adnodd coetiroedd hynafol ar ystad goed Llywodraeth Cymru.

·         Mae cynlluniau thematig wedi cael eu hymsefydlu gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn System Gwybodaeth Ddaearyddol ystad goed Llywodraeth Cymru fel ei fod o fewn rhaglenni rheoli ac yn hygyrch ar gyfer adrodd yn y dyfodol.

11

Datblygu, hyrwyddo a gweithredu rhaglenni i reoli rhywogaethau anfrodorol, ymledol sy'n niweidio cynefinoedd coetir.

 

·         Mae cyllid ychwanegol wedi cael ei ddarparu i CNC i ddatblygu Rhaglen Rhywogaethau Ymledol Anfrodorol Cymru (INNS) yn 2017. Bydd y Rhaglen yn cyfrannu at gyflawniad ac ymrwymiadau Rheoliad Rhywogaethau Estron Goresgynnol 1143/2014 yr UE a Strategaeth Rhywogaethau Anfrodorol Prydain yn ogystal â'r Strategaeth Ddŵr i Gymru, Strategaeth Coetiroedd i Gymru, Cynllun Gweithredu Adfer Natur, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r Cynllun Morol.

·         Mae'r Rhaglen yn ymdrin â materion sy'n ymwneud â rhywogaethau anfrodorol goresgynnol fel yr argymhellwyd gan Bwyllgor Craffu'r Amgylchedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2013.

·         Bydd y Rhaglen yn sicrhau bod Cymru'n cael ei diogelu’n well a’i bod yn fwy gwydn i wrthsefyll effaith bosibl Rhaglen Rhywogaethau Ymledol Anfrodorol Cymru (INNS).

·         Mae swyddogion Llywodraeth Cymru a CNC yn gweithredu ar Fwrdd Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Anfrodorol Prydain, ac fe wnaethant gyfrannu at ddiweddaru strategaeth Prydain yn 2015.

Gweithredu penodol ynghylch rhywogaethau

·         Mae ceirw Muntjac a gwiwerod llwyd ar y rhestr o Rywogaethau Estron Goresgynnol o Bryder i’r Undeb (IASoUC) sy'n ffurfio rhan o reoliad yr UE 1143/2014 ar Rywogaethau Estron Goresgynnol (IAS).  Mae hyn yn gofyn am i fesurau rheoli gael eu rhoi ar waith ar gyfer Rhywogaethau Estron Goresgynnol o Bryder i’r Undeb (IASoUC) y mae Aelod-wladwriaethau wedi canfod sydd wedi lledaenu yn eang yn eu tiriogaeth, fel bod eu heffaith ar fioamrywiaeth, y gwasanaethau ecosystem cysylltiedig, a, lle y bo'n gymwys, ar iechyd pobl neu'r economi yn cael eu lleihau. Mae gwaith i adolygu a diweddaru'r cynllun gweithredu drafft ar gyfer ceirw Muntjac yn parhau.

·         Mae rheoli poblogaeth ceirw Cymru yn bwysig er mwyn sicrhau y cynhelir cydbwysedd rhwng yr effeithiau cadarnhaol a negyddol y gall ceirw eu cael ar yr amgylchedd.

·         Cafodd y Strategaeth ar gyfer Rheoli Ceirw Gwyllt yng Nghymru ei chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2011.   Mae swyddogion wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gwblhau Cynllun Gweithredu wedi'i ddiweddaru ar gyfer Rheoli Ceirw Gwyllt yng Nghymru y bwriedir iddo gael ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Gorffennaf 2017. Bydd hyn yn parhau i gynnwys camau gweithredu i godi ymwybyddiaeth am, rheoli a monitro poblogaethau o geirw estron.

·         Mae ceirw Muntjac a gwiwerod llwyd ar y rhestr o bryder i’r Undeb sy’n rhan o reoliad UE 1143/2014 ar Rywogaethau Goresgynnol Estron. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol rhoi cynllun gweithredu ar rywogaethau ar waith i nodi mesurau rheoli effeithiol a chymesur. Mae gwaith i adolygu a diweddaru’r cynllun gweithredu ar rywogaethau drafft ar gyfer Muntjac yn parhau.

·         Mae Cynllun Gweithredu Rheoli Gwiwerod Llwyd drafft wedi cael ei gyd-gynhyrchu gan Lywodraeth Cymru a CNC gyda mewnbwn gan weithgor o randdeiliaid. Mae'n ceisio mynd i'r afael â pholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli gwiwerod llwyd fel y nodir yn y Strategaeth Coedwigaeth Coetiroedd i Gymru, yn ogystal â bodloni gofynion Rheoliad Rhif 1143/2014 yr UE ar Atal a Rheoli Cyflwyno a Lledaeniad Rhywogaethau Goresgynnol Estron. Mae'n cefnogi cyflwyno Cynllun Diogelu'r Wiwer Goch yng Nghymru fel y cafodd ei lunio gan Fforwm Gwiwerod Cymru, sy'n cael ei ddiweddaru. Bydd hefyd yn cyfrannu at Gytundeb Wiwerod y DU, y mae Llywodraeth Cymru yn llofnodwr iddo ac sy'n canolbwyntio ar reoli gwiwerod llwyd er mwyn gwarchod gwiwerod coch a choetir. Bydd y cynllun drafft yn cael ei ddatblygu gyda mewnbwn pellach gan randdeiliaid, cyn i ymgynghoriad cyhoeddus llawn gael ei wneud yn yr Hydref.

·         Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Rheoli gwiwerod llwyd ac maent yn parhau i weithio mewn partneriaeth ym mhob un o’r tair ardal gadwraeth ar gyfer gwiwerod coch i leihau effaith y wiwer lwyd ar y wiwer goch. 

·         Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ar y Cod Ymddygiad ar gyfer darpariaethau rheoli rhywogaethau’r Ddeddf Seilwaith.

·         Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Fforwm Gwiwerod Cymru ac yn aelod o Gytgord Gwiwerod y DU.

·         Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cymryd rhan ym mwrdd Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr, a chyfrannodd at y gwaith o ddiweddaru strategaeth Prydain Fawr yn 2015.

·         Mae Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymeradwyo Datganiad Sefyllfa ar Drawsleoliadau Cadwraeth. Bydd yn cael ei gyhoeddi yn 2017.

 

12

Casglu tystiolaeth i fesur a gwerthuso gwerth elfennau nad

ydynt yn ymwneud â phren coedwigaeth, coetiroedd a choed yng Nghymru.

 

·         Cwblhawyd astudiaeth annibynnol a dddechreuwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth ar werthfawrogi buddion cymdeithasol ac amgylcheddol coedwigaeth yn ystod 2016. Goruchwyliwyd y gwaith gan grŵp llywio a oedd yn cynnwys cynrychiolaeth o Lywodraeth Cymru ac mae’n amlygu bod gan allbynnau cymdeithasol ac amgylcheddol coetiroedd swyddogaeth lawer ehangach yn yr economi na gydnabyddir yn aml. Er bod llawer o waith gwerthfawr wedi cael ei wneud i ddatblygu’r sail dystiolaeth, mae angen gwneud rhagor o waith ymchwil mewn meysydd penodol (lliniaru llifogydd, ansawdd dŵr, iechyd corfforol a meddyliol) er mwyn deall gwerth cymdeithasol ac economaidd coetiroedd yn y meysydd hyn yn well. Mae'r adroddiad llawn ar gael yma:   https://www.forestry.gov.uk/PDF/FCRP027.pdf/$FILE/FCRP027.pdf

·         Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithredu â Forest Research a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i archwilio dulliau o wella’r sail dystiolaeth ar gyfer swyddogaeth economaidd coetiroedd yng Nghymru o ran hamdden, gwella ansawdd aer a chyflenwad pren. Mae'r adroddiad sy'n deillio o’r gwaith yn dangos pwysigrwydd allbynnau heb fod yn bren o goetiroedd gyda phrisiadau sylweddol ar gyfer y gwerthoedd a ddarperir gan goed yng Nghymru mewn perthynas â gwella ansawdd yr aer (£285 miliwn), hamdden (£84 miliwn) a dal a storio carbon (£108 miliwn) yn flynyddol. Mae cymhariaeth â gwerth blynyddol echdynnu coed yng Nghymru (£28 miliwn) yn dangos pwysigrwydd cyhoeddus ehangach coed a choetiroedd, y tu hwnt i bren.

·         Mae CNC wedi cynhyrchu dwy astudiaeth achos (Coed Newydd a Llynfi) sy'n esbonio sut mae coetir yn cyfrannu at nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a sut y gallai'r gwasanaethau ecosystem a gynhyrchir gael eu hasesu gan ddefnyddio technegau prisio cyfalaf naturiol. Mae CNC yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar fframwaith cyfrifyddu budd naturiol yn seiliedig ar yr astudiaethau hynny a fydd yn helpu i ddangos llif o fuddion lles ochr yn ochr â gwerth economaidd ffibr pren o ystâd goetir Llywodraeth Cymru, gyda'r nod o gynnwys hyn yn eu hadroddiad blynyddol a’r cyfrifon ar gyfer 2017 / 18.  Bydd y gwaith hwn hefyd yn cyfrannu at yr adolygiad o "Rôl a Phwrpas" ystad goetir Llywodraeth Cymru, yn unol â llythyr cylch gwaith CNC ar gyfer 2017/18.

·         Mae gwaith yn parhau ar adolygiad o saethu hamdden ar ystad goetir Llywodraeth Cymru. Lansiwyd Galwad am Dystiolaeth ar 6 Chwefror 2017 a daeth i ben ar 30 Ebrill 2017.  Bydd CNC yn ystyried y dystiolaeth i ddatblygu cynigion ar gyfer defnyddio arfau tanio ar y tir y mae'n ei reoli, ac yna bydd yn ymgynghori ymhellach ar y cynigion drafft, cyn gwneud penderfyniad terfynol.

13

Hyrwyddo a gwella mynediad i goedwigaeth a choetiroedd i fwy o bobl gymryd rhan ac elwa o brofiadau hamdden awyr agored yn amlach. Targedu adnoddau mewn ardaloedd lle bydd y buddion iechyd, lles ac economaidd yn cael yr effaith fwyaf.

 

·         Bydd Polisi Adnoddau Dynol Llywodraeth Cymru yn cymryd amrywiaeth gwasanaethau ecosystem coedwigoedd, coetiroedd a choed i ystyriaeth.

·         Ceir 790 cilomedr o lwybrau beicio mynydd o’r radd flaenaf, 955 cilomedr o’n llwybrau caniataol â chyfeirbwyntiau a 3,702 cilomedr o ffyrdd coedwig yn y coetiroedd a reolir gan Gyfoeth Naturiol Cymru, y maent oll yn cael llawer o ddefnydd ar gyfer cerdded, beicio, marchogaeth a rhedeg. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i gynnal y rhain er mwyn darparu profiad ymwelwyr o ansawdd uchel, a dyletswydd o ofal i’r cyhoedd.

·         Mae darpariaeth helaeth ar gyfer mynediad i farchogwyr ar draws ystad a reolir CNC. Mae'r ffigurau diweddaraf gan CNC yn awgrymu bod gan farchogwyr fynediad i dros 3700km o ffyrdd coedwig a thros 1000km o lwybrau ceffylau ar draws yr ystad. Mae CNC wedi mapio 415km o lwybrau i farchogwyr ar hyd llwybrau ceffylau a ffyrdd coedwig, gan ddarparu llwybrau meddal, er enghraifft yng nghoedwigoedd Crychan a Dyfnant a ddatblygwyd i'w defnyddio gan geffylau.

·         Yn ystod 2016, cynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru Adolygiad Maes Busnes mewnol o hamdden a mynediad. Y diben oedd gwneud cynnig hamdden wedi’i ad-drefnu ar gyfer ystad Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n canolbwyntio ar ddarparu’r Cynllun Galluogi Hamdden a Mynediad a datblygu cyfleoedd i sicrhau cymaint o incwm masnachol â phosibl yn unol â diben Cyfoeth Naturiol Cymru o gynyddu’r rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol.

·         Mae cymorth cyllid craidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Llais y Goedwig wedi targedu camau gweithredu i gymunedau gael mynediad at goetiroedd mewn ffyrdd arloesol ac i gael eu cynnwys lle’n briodol mewn gweithgareddau a phenderfyniadau rheoli.

·         Gwnaeth Maniffesto Plaid Lafur Cymru ymrwymiad i barhau gyda’r Prosiect Plannu Coeden i Bob Plentyn. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwrw ymlaen â chyfnod darparu newydd (2016-2020) mewn partneriaeth â Choed Cadw (yr Ymddiriedolaeth Coetir yng Nghymru). Mae ychydig dros 300,000 o goed llydanddail brodorol (143 hectar) wedi eu plannu hyd yn hyn. Bydd achlysur swyddogol i ddathlu’r 300,000fed goeden yn cael ei gynnal ym mis Medi a fydd yn rhoi cychwyn ar gyfres o ddigwyddiadau drwy gydol 2018 i ddathlu 10 mlynedd y prosiect.

·         Yn dilyn ei Adolygiad Maes Busnes Hamdden ac Addysg, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi newid ei ddull o ymdrin ag addysg a sgiliau, ond bydd yn parhau i gynnig cyngor a chanllawiau, hyfforddiant i weithwyr addysg proffesiynol ac adnoddau i alluogi eraill i ddefnyddio coetiroedd a reolir gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

·         Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datblygu (gyda rhanddeiliaid) “Cod Defnyddwyr Llwybrau” yn rhan o’r gyfres Cod Cefn Gwlad. Mae hwn wrthi’n cael ei gyhoeddi ar hyn o bryd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i weithredu argymhellion ei Adolygiad Canolfan Ymwelwyr.

·         Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn diweddaru ac yn ail-alinio ei Gynllun Galluogi dros y flwyddyn nesaf i sicrhau a chryfhau cyfraniad y nodau ac amcanion Llesiant.

·         Cyfrannodd Cyfoeth Naturiol Cymru at Flwyddyn Antur Cymru trwy ei wefannau a’i gyfryngau cymdeithasol. Byddant yn gwneud yr un peth eleni ar gyfer Blwyddyn y Chwedlau.

·         Datblygodd a chyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru gyfres o 10 Antur Orau ar safleoedd y mae’n eu rheoli gan gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau arwyddocaol.

·         Cynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru Rali Cymru ym mis Hydref 2016.

·         Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwella profiad y defnyddiwr o’i wefan gan gynnwys yr adrannau “Ar Grwydr” sy’n ymwneud â chyfleoedd hamdden a mynediad.

14

Cymryd rhan yn y Prosiect Llywodraethu Coedwigoedd

i lunio'r cynllun ar gyfer cyflenwi swyddogaethau coedwigaeth ar draws ffiniau Prydain yn y dyfodol gan sicrhau bod anghenion Cymru, ac anghenion gweinyddiaethau eraill Prydain Fawr, yn cael eu diwallu.

 

·         Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried swyddogaeth y Comisiwn Coedwigaeth yn yr Alban yn y dyfodol, gyda’r ganlyneb fod swyddogaethau trawsffiniol yn cael eu hadolygu.

·         Mae Llywodraeth Cymru yn aelod o’r Bwrdd Prosiect Llywodraethu Coedwigaeth ynghyd â Llywodraeth yr Alban a Defra i sicrhau bod anghenion Cymru yn cael eu diwallu mewn trefniadau yn y dyfodol ar gyfer darparu swyddogaethau trawsffiniol.

·          Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu cymorth parhaus i Lywodraeth Cymru o ran y Prosiect Llywodraethu Coedwigaeth ac yn cynnal ei haelodaeth o grwpiau trawsffiniol fel y Grŵp Cyhoeddiadau Strategol, Grŵp Llywio IFOS, cyfarfod cyswllt Swyddogion Rheoli Coedwigoedd, gweithgor Hylobius, a grwpiau rhaglen Strategaeth Gwyddoniaeth ac Arloesedd ar gyfer coedwigaeth.

·          Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i nodi gofynion ac opsiynau i Gymru yn y dyfodol ar gyfer swyddogaethau trawsffiniol a ddarperir gan y Comisiynwyr Coedwigaeth ar hyn o bryd, a threfniadau strategaeth ymadael o wasanaethau’r Comisiwn Coedwigaeth. Mae hyn wedi cynnwys ystyriaeth o faterion yn ymwneud â deddfwriaeth, iechyd planhigion, Safon Coedwigaeth y DU, comisiynu gwyddoniaeth ac ymchwil, ystadegau coedwigaeth, Cod Carbon Coetir y DU, materion rhyngwladol, a chyhoeddiadau strategol.